CART - Tîm Ymchwil Ategol Coleshill

Mae Tîm Ymchwil Ategol Coleshill (CART) yn grŵp o ymchwilwyr a chefnogwyr gwirfoddol sy'n ymchwilio ac yn cofnodi Unedau Ategol yr Ail Ryfel Byd. Cyhoeddir y canfyddiadau ar wefan British Resistance Archive yma yn www.staybehinds.com a chânt eu diweddaru’n gyson.

Ffurfiwyd Tîm Ymchwil Ategol Coleshill (CART) yn 2009 pan ddechreuodd y sylfaenydd Tom Sykes ymchwilio i’r Unedau Ategol a hyfforddwyd yn y pencadlys, Coleshill House, ger Highworth, Wiltshire.

Hyd yn hyn, mae pob un o aelodau hysbys yr Unedau Ategol wedi'u cofnodi gan gynnwys Cynorthwywyr gweithredol, Swyddogion Cudd-wybodaeth, Adrannau'r Sgowtiaid, staff y Pencadlys ynghyd â gweithredwyr Dyletswyddau Arbennig, ATS a Royal Signals.

Yn 2019 diolch i nawdd gan Ymddiriedolaeth Elusennol Lluoedd Arbennig Gerry Holdsworth, ac ailadeiladu enfawr o’n gwefan, rydym nawr yn dechrau rhoi sylw i’r dynion a’r menywod o’r SOE a’r SAS.